“…Er hynny, mae astudiaethau eraill yn awgrymu bod gwahanol ffactorau, rhai proffesiynol a phersonol, yn cyfrannu at sefydlogrwydd staffio dros amser, er enghraifft, ymreolaeth athrawon neu athrawon sy’n byw yn y gymuned, yn enwedig mewn mannau dymunol fel parc cenedlaethol (Barley a Beesley, 2007). Mae tystiolaeth bod athrawon yn debygol o aros yn yr ardal lle cawsant eu swydd addysgu gyntaf (Barter, 2008; Fowles et al , 2014) felly, o safbwynt yr ysgol, mae ansawdd y penodiadau cyntaf yn bwysig, fel y mae ansawdd y dysgu proffesiynol ar ôl hynny. Mae arolygon o ddysgu proffesiynol mewn systemau uchel eu perfformiad yn rhoi pwys ar y lle sydd gan ddysgu cydweithredol ac ymreolaeth ysgol yn y diwylliant cyffredinol ac yn effeithlonrwydd athrawon (Butler et al , 2015; Black et al , 2016; Fullan a Hargreaves, 2016; Hargreaves a O’Connor, 2017).…”